ffoniwch 0300 234 0300
Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 7am-7pm
Dydd Sul: 9am-6pm
Oriau gwasanaeth
Monday | 08:30 - 12:30
17:30 - 18:30 |
Tuesday | 08:30 - 10:30
17:30 - 18:30 |
Wednesday | 08:30 - 12:30
17:30 - 18:30 |
Thursday | 08:30 - 10:30
17:30 - 18:30 |
Friday | 08:30 - 12:30
17:30 - 18:30 |
Saturday | 10:30 - 12:20
15:30 - 17:30 |
Oriau gwasanaeth
Monday | 13:15 - 16:15 |
Tuesday | 16:30 - 18:30 |
Wednesday | 13:15 - 16:15 |
Thursday | 16:30 - 18:30 |
Friday | 13:15 - 16:15 |
Saturday | 08:30 - 09:30 |
Monday | 14:15 - 15:15 |
Saturday | 17:30 - 18:30 |
Oriau gwasanaeth
Monday | 09:00 - 12:00
12:45 - 14:45 |
Tuesday | 09:00 - 12:00 |
Wednesday | 09:00 - 12:00
12:45 - 14:45 |
Thursday | 09:00 - 12:00 |
Friday | 09:00 - 12:00
12:45 - 14:45 |
Saturday | 09:30 - 10:30
13:15 - 14:15 |
Oriau gwasanaeth
Monday | 07:30 - 18:30 |
Tuesday | 07:30 - 18:30 |
Wednesday | 07:30 - 18:30 |
Thursday | 07:30 - 18:30 |
Friday | 07:30 - 18:30 |
Saturday | 08:30 - 18:30 |
Parth Sain Ffraid
Mae parth gwasanaeth Sain Ffraid yn cysylltu penrhyn Tyddewi â dinas fach fach fywiog Tyddewi, a phentrefi arfordirol trawiadol Bae Sain Ffraid â thref sirol brysur Hwlffordd.
Mae cysylltiadau â gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bws ar gael yn Hwlffordd.
Mae parth Sain Ffraid yn cynnig teithiau i gymudwyr o ddydd Llun i ddydd Gwener gan sicrhau y byddant yn cyrraedd Hwlffordd am 0830 ac yn dychwelyd adref am 1730.
Dim ots beth yw diben eich taith, gallwch archebu i gael eich codi neu eich gollwng unrhyw le yn y parth Sain Ffraid sy’n cael ei ddangos ar y map yn ystod yr oriau gwasanaeth isod. Gall Fflecsi eich hebrwng yno a’ch dychwelyd eto

Parth Sant Aidan
Mae’r parth yn cynnwys y llwybr pererindod hynafol a ddilynwyd gan Sant Aidan ac mae’n wasanaeth delfrydol i archwilio arfordir ysblennydd gogledd Sir Benfro, yn ogystal â mynediad i siopau, gwasanaethau a gweithgareddau yn Abergwaun a Thyddewi.
Mae cysylltiadau â gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bws ar gael yn Abergwaun. Mae gwasanaeth St Aidan hefyd yn cyd-fynd â Gwibiwr Strwmbwl (Gwasanaeth Bws 404), gan roi mwy o ddewisiadau i gerddwyr ac ymwelwyr ag arfordir Sir Benfro.
Dim ots beth yw diben eich taith, gallwch archebu i gael eich codi neu eich gollwng unrhyw le yn y parth Sant Aidan sy’n cael ei ddangos ar y map yn ystod yr oriau gwasanaeth isod. Gall Fflecsi eich hebrwng yno a’ch dychwelyd eto

Parth Jemima
Mae parth Jemima wedi’i enwi ar ôl Jemima Niclas, arwres leol chwedlonol. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys yr ardal rhwng Abergwaun a Hwlffordd. Mae’r gwasanaeth yn eich galluogi i archwilio tapestri Glaniad y Ffrancod yn Abergwaun a Pharc Gwledig Maenordy Scolton.  Gallwch chi hefyd ddefnyddio Fflecsi i gael mynediad i siopau, gwasanaethau a gweithgareddau yn Abergwaun, Treletert a Hwlffordd.
Mae cysylltiadau â gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bws ar gael yn Abergwaun a Hwlffordd.

Dale Penisula
Mae’r parth hwn yn cysylltu penrhyn hardd Dale, yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, â threfi bywiog Hwlffordd ac Aberdaugleddau.
Gallwch deithio i unrhyw le o fewn y parth ar gyfer hamdden, gwaith, siopa, addysg neu apwyntiadau iechyd – yn ogystal â defnyddio’r gwasanaeth i grwydro arfordir trawiadol a hardd cefn gwlad Sir Benfro.
Mae cysylltiadau â gwasanaethau rheilffordd a bws ychwanegol ar gael yn Hwlffordd ac Aberdaugleddau.
Beth bynnag fo pwrpas eich taith, archebwch docyn i gael eich codi neu eich gollwng unrhyw le yn y parth a ddangosir ar y map isod – gall fflecsi eich cludo yno ac yn ôl yn ddidrafferth.
Dydy ein bysiau ni ddim yn croesi i’r pathau eraill, felly efallai y bydd angen I chi archebu mwy nag un daith os ydych chi’n bwriadu teithio ar draws y sir.
Cwestiynau?
fflecsi yn ymateb i’r galw cyfredol, mae’n gweithio orau pan fyddwch yn archebu mewn amser real drwy’r app.
Gallwch hefyd archebu eich gwasanaeth drwy ffonio 0300 234 0300
Gallwch. Gallwch ddefnyddio’ch cerdyn rhatach ar bob gwasanaeth fflecsi.
Byddwch yn talu ar y bws drwy ddefnyddio cerdyn banc digyffwrdd neu Smartcard. Mae’n ddrwg gennym ond ni ellir rhoi unrhyw newid.
Y ffordd orau o archebu a rheoli eich teithiau yw lawrlwytho ein ap ar eich ffôn clyfar neu lechen, ond gallwch ein ffonio i gadw’ch lle hefyd ar 0300 234 0300.
Os nad ydym wedi ateb eich holl gwestiynau, e-bostiwch ni yn helo@fflecsi.cymru neu ffoniwch ni ar 0300 234 0300.
Oes, mae’n rhaid i bob teithiwr, gan gynnwys plant a babanod, drefnu tocyn fel teithiwr ychwanegol.
Sut mae’n gweithio
Mae bysiau fflecsi yn eich codi a’ch gollwng ledled ardal y gwasanaeth ac nid dim ond mewn safleoedd bws. Gall y bws eich codi ar eich cais, gan newid ei lwybr fel y gall pob teithiwr gyrraedd lle mae angen iddynt fynd. Nod fflecsi yw helpu pobl i wneud teithiau lleol hanfodol.
Archebwch ymlaen llaw drwy ddefnyddio’r ap neu drwy ffonio 0300 234 0300. Mae amrywiol wasanaethau ar gael. Mae’r gwasanaethau wedi’u cynllunio fel bod gan bawb yng Ngogledd Sir Benfro ddewisiadau teithio bob wythnos. Mae hon yn ardal eang iawn, felly mae gwasanaethau’n amrywio o ddydd i ddydd – gall fflecsi wasanaethu un pentref un diwrnod ac un arall y diwrnod nesaf.