Sut mae’r bws fflecsi yn gweithio?
Gall bysiau fflecsi eich codi a’ch gollwng mewn ardal sy’n cael ei gwasanaethu, ac nid dim ond mewn safle bws. Mae mor syml ag archebu eich taith drwy’r ap neu dros y ffôn, yna ar eich cais chi bydd bws yn eich codi chi, gan newid ei lwybr er mwyn i’r holl deithwyr allu cyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd.
Mae eich diogelwch yn hollbwysig, felly rydyn ni wedi dylunio fflecsi i gludo teithwyr yn ddiogel. Mae gwybod faint o deithwyr rydyn ni’n eu codi yn golygu ein bod ni’n gallu gwarantu sedd i chi ac osgoi gorlenwi'r cerbydau.

1
Lawrlwythwch ein ap neu ffoniwch ni
Agorwch eich cyfrif neu ffoniwch ni ar 03002 340 300.
2
Archebwch eich taith
Dewiswch eich pwyntiau casglu a gollwng. Byddwch yn derbyn cadarnhad a diweddariadau byw o’ch bws.
3
Teithio
Ewch i’ch man casglu mewn digon o amser a byddwch yn barod i ddechrau’ch taith.
fflecsi locations
Lleoliadau fflecsi
Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol - edrychwch ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal