Y ffordd hyblyg o deithio

Mae fflecsi yn ffordd wahanol o deithio ar fws ac yn wasanaeth newydd cyffrous gan Trafnidiaeth Cymru mewn partneriaeth â’ch gweithredwyr bysiau lleol.

Lawrlwythwch yr ap fflecsi i archebu

Ein ap yw’r ffordd hawsaf o ddefnyddio fflecsi. Mae’r ap yn dangos i chi ble mae’ch gwasanaeth fflecsi, ble bydd yn eich casglu a phryd fydd e’n cyrraedd.

neu archebwch drwy ein ffonio ar 03002 340 300

Dydd Llun - Dydd Sadwrn: 07:00 - 19:00
Dydd Sul: 09:00 - 17:00

Representative image of a train station

Sut mae’n gweithio

Gall bysiau Fflecsi eich codi a’ch gollwng mewn maes gwasanaeth, ac nid dim ond mewn safle bws. Bydd angen i chi archebu eich taith drwy’r ap neu dros y ffôn, yna ar eich cais chi bydd bws yn eich codi chi, gan newid ei lwybr er mwyn i’r holl deithwyr allu cyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd.

Mae eich diogelwch yn hollbwysig, felly rydyn ni wedi dylunio fflecsi i gludo teithwyr yn ddiogel. Mae gwybod faint o deithwyr rydyn ni’n eu codi yn golygu ein bod ni’n gallu gwarantu sedd i chi ac osgoi gorlenwi'r cerbydau.
1

Lawrlwythwch ein ap neu ffoniwch ni

Agorwch eich cyfrif neu ffoniwch ni ar 03002 340 300.

2

Archebwch eich taith

Dewiswch eich pwyntiau casglu a gollwng. Byddwch yn derbyn cadarnhad a diweddariadau byw o’ch bws.

3

Teithio

Ewch i’ch man casglu mewn digon o amser a byddwch yn barod i ddechrau’ch taith.

fflecsi locations

Lleoliadau fflecsi

Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol - edrychwch ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal